Llun agos o logo  Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig

 

 

                                                                                                                                    

 

 

Effaith COVID-19 ar hyfforddiant celfyddydau ieuenctid yng Nghymru

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg

a Chyfathrebu

 

Mawrth 2021

                                 

 

 

 

 

 

 

                                                                                                                    

                                                      

 

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

1.    Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yw'r elusen genedlaethol ar gyfer actorion, dawnswyr a cherddorion dawnus a thalentog rhwng 16 a 22 oed ledled Cymru. Bob blwyddyn rydym yn gweithio gyda thua 900 o bobl ifanc, drwy gyfleoedd hyfforddi a pherfformio eithriadol yn y celfyddydau.

2.    Hyd at 2017, rhannwyd arweinyddiaeth artistig CCIC rhwng CBAC a Thŷ Cerdd, ond ym mis Hydref 2017 unwyd pob un o'r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol (theatr, dawns, cerddorfa, côr, band pres, cerddorfa chwyth) yng Nghymru o dan un sefydliad – Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Cyf. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn elusen gofrestredig (rhif 1170643), ac mae'n rhan o bortffolio Cyngor Celfyddydau Cymru o sefydliadau a ariennir yn rheolaidd.

3.    Ers ei sefydlu yn 2017, mae CCIC wedi ehangu ei waith y tu hwnt i'r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol, ac mae bellach yn cynhyrchu amrywiaeth o brosiectau datblygu sydd wedi'u cynllunio i wella mynediad at hyfforddiant lefel uchel. Mae hyn yn cynnwys Cerdd y Dyfodol, cynllun mentora cenedlaethol cyntaf Cymru i gerddorion roc a phop mewn ysgolion.

4.    Mae CCIC hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth ieuenctid, gan gynnwys cynllun Cynhyrchwyr dan hyfforddiant blynyddol, lle telir y Cyflog Byw Gwirioneddol, a gynlluniwyd i helpu graddedigion ifanc o deuluoedd incwm is i ymuno â gweithlu'r diwydiannau creadigol. Rydym hefyd yn cyflogi bron i 300 o weithwyr llawrydd bob blwyddyn i helpu i gyflwyno ein rhaglen o weithgareddau ledled Cymru.

5.    Mae CCIC wedi ymrwymo i sicrhau nad yw amgylchiadau ariannol yn rhwystr rhag cyfranogi. Bob blwyddyn, mae CCIC yn cynnig bwrsariaethau ar gyfer nifer sylweddol o'r cyfranogwyr ifanc, ac mae ein prosiectau datblygu am ddim ar y pwynt mynediad.

 

Effaith uniongyrchol COVID-19

6.    Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi tarfu'n ddifrifol ar hyfforddiant artistig pobl ifanc, a bu’n rhaid canslo bron pob sesiwn hyfforddiant artistig wyneb yn wyneb. Yn union fel athletwyr elît, mae angen i berfformwyr ifanc talentog fod yn perfformio ac yn ymarfer yn gyson i gynnal safon uchel yn eu hymdrechion tuag at yrfa broffesiynol.

7.    Er bod ysgolion wedi gallu gweithredu mewn rhai lleoliadau, mae'n anochel mai cyfyngedig fu darpariaeth y celfyddydau. Bu'n rhaid i CCIC ganslo'r holl weithgarwch wyneb yn wyneb o fis Mawrth 2020, gan gynnwys ein cyrsiau preswyl haf blynyddol.

8.    Rydym o’r farn y bu rhywfaint o wahaniaeth rhwng hyfforddiant celfyddydol  elît a hyfforddiant chwaraeon elît. Er y rhoddwyd caniatâd teithio ar gyfer hyfforddiant chwaraeon elît o dan ganllawiau'r llywodraeth, nid oedd hyn yn ymestyn i artistiaid ifanc elît.

9.    Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd a gweithdai hyfforddi digidol, yn yr un modd â llawer o ddarparwyr hyfforddiant celfyddydol, ond ni fydd hyn byth yr un fath â hyfforddiant wyneb yn wyneb, sy'n hanfodol ar gyfer datblygiad perfformiwr. Mae hyn yn arbennig o wir am ensembles cerddoriaeth, na ellir eu hail-greu yn fyw dros feddalwedd fideo-gynadledda oherwydd ansawdd sain a’r oedi o ran amser.

10. Yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, bydd yn rhaid i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru barhau i weithredu mewn ffordd wahanol yn ystod 2021. Mae hyn yn cynnwys canslo ein cyrsiau preswyl haf wyneb yn wyneb am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn ogystal â'r effaith ariannol y bydd hyn yn ei chael arnom fel elusen, mae hefyd yn drychinebus i'n haelodau ifanc. Rydym yn ofni y bydd llawer yn colli eu hyder fel perfformwyr a gall rhai ohonynt roi'r gorau i'r sector yn gyfan gwbl. Rydym yn gweithio'n galed i barhau ac ehangu ein rhaglen o weithdai digidol i geisio atal hyn rhag digwydd.

 

Ein Prosiectau Digidol

11. Ers dechrau'r pandemig, roedd yn amlwg y gellid defnyddio hyfforddiant digidol fel mesur dros dro, ond ni fyddai byth yn gallu efelychu perfformiad byw mewn theatr neu neuadd gyngerdd. Wrth i'n haelodau ddod yn fwy cyfarwydd â dysgu digidol, rydym wedi arbrofi gyda phrosiectau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer digidol, ond ni all hyn efelychu'r profiad y byddai aelodau'n ei gael wyneb yn wyneb.

12. Er gwaethaf yr heriau y mae'r pandemig wedi'u cyflwyno i ni, rydym wedi gallu darparu tua 300 o sesiynau a gweithdai digidol ers mis Ebrill 2020.

13. Darparwyd y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim i'r cyfranogwyr ifanc. Er bod gwariant ar gyfer ein rhaglen ddigidol yn is na'n cyrsiau preswyl wyneb yn wyneb, mae'r rhain yn dal i ddarparu lefel sylweddol o gyflogaeth i diwtoriaid ac artistiaid llawrydd.

14. Mae ein prosiectau digidol yn rhyngweithiol ac yn ymarferol ac yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc barhau â'u hyfforddiant, cydweithio ag artistiaid newydd, ac archwilio gweithiau neu genres newydd na fyddent efallai'n eu profi fel arall. Ymhlith yr enghreifftiau o brosiectau sydd wedi gweithio'n dda dros y misoedd diwethaf mae:

a.    Gweithdai digidol rhwng aelodau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban – lle gall y ddau gwmni ieuenctid elwa o ddosbarthiadau meistr gan artistiaid o'r radd flaenaf a chymryd rhan mewn "cyfnewidfa ddiwylliannol" rhwng y ddwy wlad.

b.    Clwb darllen drama Zoom newydd ar gyfer Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, lle mae aelodau'n cael paratoi darlleniad wedi'i ymarfer o ystod lawer ehangach o repertoire theatr, wedi'i ysgrifennu gan awduron o gefndiroedd amrywiol, ac fel arfer yn cynnwys Sesiwn Holi ac Ateb fyw gan yr awduron am eu gyrfa.

c.    Ar gyfer ein ensembles cerddoriaeth, dosbarthiadau meistr rhyngweithiol digidol gan artistiaid o fri rhyngwladol, gan gynnwys bariton Roderick Williams, y feiolinydd baróc Rachel Podger a'r artist gwerin Patrick Rimes.

 

ch.  Partneriaeth greadigol newydd gyda chwmni theatr cynhwysol Hijinx, lle mae aelodau CCIC wedi ffurfio cast integredig ochr yn ochr ag artistiaid anabledd dysgu a/neu awtistig.

 

d.    Sesiynau digidol cyntaf Cerdd y Dyfodol 2021, ein prosiect datblygu cerddoriaeth gyfoes, lle mae chwe mentor wedi cael eu paru ag ysgolion ledled Cymru cyn cwrs preswyl digidol ym mis Ebrill.

 

dd.Cyfres o weithdai lles, gan gynnwys sesiynau cymdeithasol rhwng aelodau, dosbarthiadau ioga digidol, a chyflwyniadau ymarferol i Soffroleg, i helpu aelodau i ganolbwyntio ar eu hanghenion iechyd corfforol a meddyliol eu hunain yn ystod y cyfnod anodd hwn i bobl ifanc.

e.    Mentora un-i-un rhwng ein haelodau cerddoriaeth a cherddorion o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a thrafodaethau ehangach gydag artistiaid gan gynnwys eu Prif Arweinydd Ryan Bancroft am amrywiaeth mewn cerddoriaeth glasurol.

15. Gan nad yw ein cyrsiau preswyl wyneb yn wyneb yn 2021 yn mynd rhagddynt, byddwn yn cynllunio amrywiaeth eang o brosiectau digidol yn gyntaf yn lle hynny, gyda darnau newydd cyffrous wedi'u creu gyda chyfryngau digidol mewn golwg. Bydd y prosiectau hyn ar gyfer pob ensemble yn canolbwyntio ar y potensial enfawr ar gyfer cydweithredu y gall cyfleoedd digidol ei ddarparu, yn hytrach na cheisio efelychu profiad wyneb yn wyneb.

16. Ar gyfer Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, bydd eu tymor 2021 (Maniffest) yn cynnwys cyfres o sesiynau lle bydd pobl ifanc yn cymryd drosodd, comisiynau a chydweithrediadau newydd, archwilio’r broses o rymuso ieuenctid ac annog pobl ifanc i bleidleisio, wrth i bobl ifanc 16 ac 17 oed baratoi i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru am y tro cyntaf.

17. Bydd diffyg hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi effeithio’n andwyol ar hyder nifer sylweddol o bobl ifanc, neu bydd rhai yn dioddef o iechyd meddwl gwael, ac felly rydym wedi buddsoddi amser ac adnoddau i sicrhau bod gan ein haelodau fynediad at sesiynau lles digidol yn ogystal â hyfforddiant ymarferol. 

18. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym fod ein gweithdai digidol wedi bod yn achubiaeth ar adeg pan fo'r holl hyfforddiant celfyddydol wedi'i ohirio – ond nad ydynt yn ateb hirdymor ar gyfer diffyg hyfforddiant wyneb yn wyneb.

 

Cymorth Ariannol

19. Ers dechrau'r pandemig, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cael cymorth ariannol brys gan Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU, Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, a Chronfa Adfer Ddiwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae hyn wedi bod yn ychwanegol at ein cyllid rheolaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

20. Ar ôl wynebu colled sydyn mewn incwm oherwydd y pandemig (tua 50% o'r trosiant), roedd y cymorth ariannol brys hwn yn hanfodol i sicrhau na fu unrhyw golledion o ran swyddi na disbyddiad sylweddol o’n cronfeydd wrth gefn cyfyngedig hyd yma. Canfu CCIC fod y broses o hawlio cyllid brys yn gymharol syml, ac rydym yn parhau i fod â pherthynas gadarnhaol iawn â'n cyllidwyr rheolaidd. Darparodd rhywfaint o'r cymorth ariannol brys hwn gyflogaeth ychwanegol i'n cymuned o weithwyr llawrydd, drwy ein prosiectau digidol.

21. Er ein bod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gafwyd yn 2020-2021, mae CCIC yn dal i wynebu diffyg incwm oherwydd y gweithgarwch a ganslwyd ar gyfer haf 2021. Deallwn fod trafodaethau ar y gweill ynghylch "Cronfa Adfer Ddiwylliannol 2" a byddem yn annog y Pwyllgor, a Llywodraeth Cymru, i ystyried yr opsiwn hwn o ddifrif.

22. Rydym hefyd yn pryderu'n fawr am sicrwydd ariannol artistiaid llawrydd, gan fod rhai ohonynt heb gael unrhyw gymorth ariannol o gwbl yn ystod yr argyfwng, ac mae llawer ohonynt yn dweud wrthym eu bod wedi ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r cymorth cyfyngedig sydd ar gael.

 

Effeithiau hirdymor COVID-19 ar y sector

23. Gwyddom eisoes y bydd effaith economaidd y pandemig yn cael ei theimlo waethaf gan deuluoedd incwm is, ac rydym yn ofni y bydd hyn yn arbennig o wir ym maes hyfforddiant celfyddydol. Mae perfformwyr ifanc ag anabledd hefyd yn fwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan broblemau iechyd corfforol a meddyliol yn ystod y cyfyngiadau symud, yn enwedig os ydynt wedi gorfod hunanwarchod. Heb gymorth penodol i'r grwpiau hyn, gallai hyn arafu'r gwaith presennol i helpu i sicrhau amrywiaeth yn sectorau'r celfyddydau.

24. Rydym yn ofni y bydd nifer fawr o bobl ifanc yn colli hyder yn eu galluoedd perfformio, neu hyd yn oed yn rhoi'r gorau i'r sector yn gyfan gwbl oherwydd diffyg hyder, er mai’r amgylchiadau eithriadol sydd wedi effeithio arnynt mewn gwirionedd. Byddwn yn parhau â'n meysydd lles digidol ac yn gweithio i atal pryder wrth berfformio, ond bydd angen cymorth ychwanegol ar hyn gan bartneriaid eraill.

25. Rydym hefyd yn ofni, pan fydd ysgolion yn gallu dal i fyny, y gallent gael eu temtio i flaenoriaethu pynciau STEM neu'r dyniaethau dros bynciau creadigol. Gallai hyn gael effaith negyddol iawn ar y rhai sy'n anelu at weithio yn y diwydiannau creadigol. Pan fydd cyfyngiadau pellter cymdeithasol yn cael eu llacio, byddem yn annog y sectorau addysg i weithio gyda ni i sicrhau bod perfformwyr ifanc yn gallu dal i fyny ag addysg cerddoriaeth, dawns a drama, er mwyn diogelu eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

26. Rydym wedi dysgu llawer yn ystod y pandemig hwn am sut y gellir defnyddio prosiectau digidol i'n mantais ni, yn hytrach nag fel ateb dros dro. Gobeithiwn y bydd prosiectau digidol yn parhau y tu hwnt i'r pandemig hwn, fel ffordd o ddod â phobl ifanc ac artistiaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt at ei gilydd – ond ni all perfformwyr ifanc hyfforddi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol heb hyfforddiant dwys wyneb yn wyneb. Mawr obeithiwn y gall hyn ailgychwyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.